Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 20 Mehefin 2019
Amser:
09.15 -
12.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5527
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Andrew RT Davies AC Llyr Gruffydd AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Alan Hunt, Cyfoeth Naturiol Cymru Ruth Jenkins, Cyfoeth Naturiol Cymru Ruth Chambers, Green Alliance Dr Tom West, Client Earth Rebecca Williams, Cymdeithas y Tir a Busnesau Gefn Gwlad Huw Thomas, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru Charlotte Priddy, Farmers’ Union of Wales |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Katy Orford (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Alan Hunt, Uwch Ymgynghorydd Polisi Brexit, Cyfoeth Naturiol Cymru; a Ruth Jenkins, Pennaeth Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol, Cyfoeth Naturiol Cymru.
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ruth Chambers, Uwch Gysylltydd Materion Seneddol, Green Alliance; a Dr Tom West, Cynghorydd y Gyfraith a Pholisi, Client Earth.
3.2 Cytunodd Green Alliance i ddarparu enghreifftiau i’r Pwyllgor o sefydliadau sy’n rheoli swyddogaethau cynghori a rheoleiddio.
4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Williams, Cyfarwyddwr Cymru, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru; Huw Thomas, Ymgynghorydd Gwleidyddol, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru; a Charlotte Priddy, Swyddog Polisi, Undeb Amaethwyr Cymru.
5.1 Nododd y Pwyllgor y papur gan Gyswllt Amgylchedd Cymru.
7.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o eitem 7 cyfarfod heddiw.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2,3 a 4.